Together we are calling on the Minister for Climate Change, Julie James MS, to help terminally ill people stay warm by making sure that anyone with 12 months or less to live is able to access the new Warm Homes Programme, in the same way that people with other health conditions can.

Gyda'n gilydd, rydym ni’n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, i helpu pobl â salwch terfynol i gadw'n gynnes trwy sicrhau bod unrhyw un sydd â 12 mis neu lai i fyw yn gallu manteisio ar y Rhaglen Cartrefi Cynnes newydd, yn yr un modd ag y gall pobl â chyflyrau iechyd eraill.

Open letter: Help terminally ill people stay warm
TO Julie James MS, Minister for Climate Change
Nobody should spend their final months worrying about being able to pay the bills. But sadly, this will be the reality for many people across Wales who are living with a terminal illness this winter.

People who are reaching the end of their lives are some of the most vulnerable to the health and wellbeing effects of cold and poor-quality housing. Many build up huge debts while trying to stay warm in their homes, because if they don’t then they are at risk of worsening symptoms, preventable complications, and even unplanned trips to hospital.

Although the Welsh Government’s new Warm Homes Programme aims to tackle fuel poverty across Wales, some people with a terminal illness will miss out just because only some health conditions are included in the eligibility criteria.

So please will you help people with a terminal illness to stay warm, by making sure that anyone with 12 months or less to live is eligible for the new Warm Homes Programme, in the same way that people with other health conditions can? 

Thank you,
Marie Curie supporters across Wales 

 

Llythyr agored: Helpu pobl â salwch terfynol i gadw'n gynnes
I Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Ni ddylai unrhyw un dreulio eu misoedd olaf yn poeni am allu talu'r biliau. Ond yn anffodus, dyma fydd y realiti i lawer o bobl ledled Cymru sy'n byw gyda salwch terfynol y gaeaf hwn.

Pobl sy'n cyrraedd diwedd eu hoes yw rhai o'r bobl mwyaf agored i effeithiau iechyd a lles tai oer a thai o ansawdd gwael. Mae llawer yn cronni dyledion enfawr wrth geisio cadw'n gynnes yn eu cartrefi, oherwydd os nad ydyn nhw’n gwneud hyn, maen nhw mewn perygl o brofi symptomau sy’n gwaethygu, cymhlethdodau y gellir eu hatal, a hyd yn oed teithiau heb eu cynllunio i'r ysbyty.

Er mai nod Rhaglen Cartrefi Cynnes newydd Llywodraeth Cymru yw mynd i'r afael â thlodi tanwydd ledled Cymru, bydd rhai pobl â salwch terfynol yn colli allan oherwydd mai dim ond rhai cyflyrau iechyd sy'n cael eu cynnwys yn y meini prawf cymhwysedd.

Felly, a wnewch chi helpu pobl sydd â salwch terfynol i gadw'n gynnes, drwy sicrhau bod unrhyw un sydd â 12 mis neu lai i fyw yn gymwys ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Cynnes newydd, yn yr un ffordd â phobl â chyflyrau iechyd eraill?

Diolch,
Cefnogwyr Marie Curie ar draws Cymru