Eisiau cwblhau'r arolwg hwn yn Saesneg?

Complete in English

Cyfle i rannu eich barn cyn etholiad y Senedd 2026

Mae gofal diwedd oes ar y dibyn. Mae’r bylchau mewn gofal a system sydd dan bwysau difrifol yn golygu bod gormod o bobl yn treulio eu dyddiau olaf ar eu pen eu hunain, mewn poen, ac yn brwydro i gael deupen llinyn ynghyd. Mae gofalwyr a'r rhai sy'n agos at bobl sy'n byw gyda salwch terfynol yn cael eu gadael heb gymorth. Mae gwasanaethau a staff yn ei chael hi'n anodd darparu'r gofal sydd ei angen ar bobl, pryd a ble mae ei angen arnynt. Mae angen newid ar frys.   

 Mae etholiad y Senedd lai na 12 mis i ffwrdd. Mae'n hanfodol bod trawsnewid gofal lliniarol a diwedd oes ar yr agenda i wleidyddion a Llywodraeth nesaf Cymru. Ond mae angen eich help arnom i ddangos iddyn nhw pam mae hyn yn bwysig.

A wnewch chi ein helpu i wneud hyn drwy rannu mwy am eich barn a'ch profiadau o ofal lliniarol a gofal diwedd oes?

Noder bod yr arolwg hwn ar gyfer trigolion yng Nghymru yn unig.

Cadw mewn cysylltiad

Mae cefnogwyr fel chi yn gwneud y gofal y mae Marie Curie yn ei ddarparu a'n gwaith ehangach yn bosibl - a byddem wrth ein bodd yn rhannu gyda chi pa ffyrdd eraill sydd o helpu. Rhowch wybod i ni sut yr hoffech chi glywed gennym ni:  

Rhowch y wybodaeth ddiweddaraf i mi drwy e-bost 

Rhowch y wybodaeth ddiweddaraf i mi dros y ffôn

I ddiweddaru eich dewisiadau cyswllt, gan gynnwys pa mor aml y byddwch yn clywed gennym, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch 0800 716 146. Dysgwch fwy am ein Haddewid Codi Arian a'n polisi preifatrwydd. (Saesneg yn unig)

1 o 9