Dydyn ni ddim yn siarad digon am farwolaeth a marw. Er ei fod yn effeithio ar ein bywydau ni i gyd, rydyn ni’n osgoi siarad am y peth. Felly, yn aml iawn, rydyn ni’n osgoi siarad am y gofal a'r cymorth sydd eu hangen ar bobl ar ddiwedd eu hoes.
Mae gofal lliniarol a diwedd oes yn rhan hanfodol o'n system iechyd a gofal cymdeithasol. Pan fyddwn ni'n gwneud pethau’n iawn, gall gael effaith ddofn ar bobl sy'n byw gyda salwch terfynol, a'r rhai sy'n agos atyn nhw. Ond mae gofal diwedd oes ar y dibyn. Mae bylchau mewn darpariaeth a system dan bwysau difrifol yn golygu bod gormod o bobl yn cael eu gadael heb y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw. Erbyn y 2040au, bydd angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes ar 37,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn. Os nad yw ein system yn gallu ymdopi nawr, does ganddi fawr o siawns o allu diwallu anghenion y dyfodol.
- Dywedodd 37% o bobl mewn profedigaeth nad oedd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi trafod marwolaeth a marw gyda'r person a fu farw.
- Yn 2023 pobl ym mlwyddyn olaf eu bywyd oedd mewn dros un rhan o bump o welyau ysbyty yng Nghymru bob dydd.
- Yn 2023, bu farw 6,262 o bobl mewn tlodi yng Nghymru, sy'n cyfateb i 17% o'r holl farwolaethau yng Nghymru’r flwyddyn honno.
All hyn ddim parhau.
We don’t talk enough about death and dying. Despite it touching all our lives, we avoid talking about it. As a result, we often avoid talking about the care and support people need at the end of their lives.
Palliative and end of life care is a critical part of our health and social care system. When we get it right, it can have a profound impact on people living with a terminal illness, and those close to them. But end of life care is at breaking point. Gaps in provision and a system under severe pressure means too many people are left without the care and support they need. By the 2040s, 37,000 people in Wales will need palliative and end of life care each year. If our system can’t cope now, it stands little chance of meeting future needs.
- 37% of bereaved people reported that healthcare professionals hadn’t discussed death and dying with the person who died.
- In 2023 over a fifth of hospital beds in Wales were occupied every day by people in the last year of life.
- In 2023, 6,262 people died in poverty in Wales, equal to 17% of all deaths in Wales that year.
This cannot go on.