Llofnodwch yr addewid: trawsnewid gofal diwedd oes

Sign the pledge: transform end of life care


Mae gofal diwedd oes yng Nghymru ar y dibyn. Mae bylchau mewn gofal a system sydd dan bwysau difrifol yn golygu bod gormod o bobl yn treulio’u dyddiau olaf ar eu pen eu hunain, mewn poen, ac yn brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae angen newid ar frys. 

Os ydych yn ymgeisydd ar gyfer etholiad y Senedd, rydym angen eich help.

End of life care in Wales is at breaking point. Gaps in care and a system under severe pressure mean too many people are spending their final days isolated, in pain, and struggling to make ends meet. There is an urgent need for change.  

If you’re a candidate for the Senedd election, we need your help. 


Pam fod hyn yn bwysig? / Why does this matter?

Dydyn ni ddim yn siarad digon am farwolaeth a marw. Er ei fod yn effeithio ar ein bywydau ni i gyd, rydyn ni’n osgoi siarad am y peth. Felly, yn aml iawn, rydyn ni’n osgoi siarad am y gofal a'r cymorth sydd eu hangen ar bobl ar ddiwedd eu hoes. 

Mae gofal lliniarol a diwedd oes yn rhan hanfodol o'n system iechyd a gofal cymdeithasol. Pan fyddwn ni'n gwneud pethau’n iawn, gall gael effaith ddofn ar bobl sy'n byw gyda salwch terfynol, a'r rhai sy'n agos atyn nhw. Ond mae gofal diwedd oes ar y dibyn. Mae bylchau mewn darpariaeth a system dan bwysau difrifol yn golygu bod gormod o bobl yn cael eu gadael heb y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw. Erbyn y 2040au, bydd angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes ar 37,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn. Os nad yw ein system yn gallu ymdopi nawr, does ganddi fawr o siawns o allu diwallu anghenion y dyfodol.

  • Dywedodd 37% o bobl mewn profedigaeth nad oedd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi trafod marwolaeth a marw gyda'r person a fu farw.
  • Yn 2023 pobl ym mlwyddyn olaf eu bywyd oedd mewn dros un rhan o bump o welyau ysbyty yng Nghymru bob dydd. 
  • Yn 2023, bu farw 6,262 o bobl mewn tlodi yng Nghymru, sy'n cyfateb i 17% o'r holl farwolaethau yng Nghymru’r flwyddyn honno.

All hyn ddim parhau.

We don’t talk enough about death and dying. Despite it touching all our lives, we avoid talking about it. As a result, we often avoid talking about the care and support people need at the end of their lives. 

Palliative and end of life care is a critical part of our health and social care system. When we get it right, it can have a  profound impact on people living with a terminal illness, and those close to them. But end of life care is at breaking point. Gaps in provision and a system under severe pressure means too many people are left without the care and support they need. By the 2040s, 37,000 people in Wales will need palliative and end of life care each year. If our system can’t cope now, it stands little chance of meeting future needs.

  • 37% of bereaved people reported that healthcare professionals hadn’t discussed death and dying with the person who died.
  • In 2023 over a fifth of hospital beds in Wales were occupied every day by people in the last year of life. 
  • In 2023, 6,262 people died in poverty in Wales, equal to 17% of all deaths in Wales that year.

This cannot go on.

Beth sydd angen digwydd i drawsnewid gofal diwedd oes? / What needs to happen to transform end of life care?
  1. Sicrhau bod gwasanaethau lliniarol a gofal diwedd oes yn ymatebol i anghenion pobl. 
  2. Ariannu gofal lliniarol a diwedd oes yn gynaliadwy. 
  3. Datblygu gweithlu lliniarol a gofal diwedd oes sy'n diwallu'r angen cynyddol am ofal. 
  4. Sicrhau bod pobl sy'n byw gyda salwch terfynol yn cael eu cefnogi i gael sgyrsiau am eu dewisiadau gofal. 
  5. Darparu mynediad 24/7 at ofal a chymorth. 
  6. Sicrhau bod pobl sy'n byw gyda salwch terfynol yn cael eu cefnogi i adael yr ysbyty yn gyflym, pan fyddan nhw’n gallu gwneud hynny. 
  7. Sicrhau mynediad cyfartal at ofal lliniarol a gofal diwedd oes. 
  8. Rhoi’r gefnogaeth sydd ei angen i ofalwyr di-dâl.
  9. Diogelu pobl sy'n byw gyda salwch terfynol rhag tlodi.

👉 Darllenwch faniffesto llawn Marie Curie Cymru.

  1. Ensure palliative and end of life care services are responsive to people's needs. ​ 
  2. Sustainably fund palliative and end of life care. ​ 
  3. Develop a palliative and end of life care workforce that meets the growing need for care. ​ 
  4. Ensure people living with a terminal illness are supported to have conversations about their care preferences. ​ 
  5. Provide 24/7 access to care and support. ​ 
  6. Ensure people living with a terminal illness are supported to leave hospital swiftly, when they are able. ​ 
  7. Guarantee equitable access to palliative and end of life care. ​ 
  8. Provide unpaid carers with the support they need. ​ 
  9. Protect people living with a terminal illness from poverty. 

👉 Read Marie Curie Cymru’s full manifesto.


A wnewch chi ein cefnogi ac addo trawsnewid gofal lliniarol a diwedd oes?

Will you support us and pledge to transform palliative and end of life care?

Rhowch eich manylion / Add your details 

Byddwn ond yn defnyddio eich manylion cyswllt i gysylltu â chi mewn perthynas ag ymgyrch etholiadol y Senedd. I ddiweddaru eich dewisiadau cyswllt, e-bostiwch [email protected]. Dysgwch fwy am ein polisi preifatrwydd.

We'll only use your contact details to get in touch in relation to our Senedd election campaign. To update your contact preferences, email [email protected]. Find out more about our privacy policy.