English below
Mae etholiad Senedd 2026 yn gyfle enfawr inni drawsnewid gofal diwedd oes yng Nghymru. Allwch chi ein helpu i wneud yn siŵr ei fod yn rhan fawr o'r sgwrs?
Rhwng nawr a’r diwrnod pleidleisio, mae angen inni adeiladu ton o leisiau sy'n galw am newid radical – fel nad yw gofal diwedd oes yn cael ei anwybyddu pan fydd ymgeiswyr yn dechrau curo ar ddrysau a gwneud addewidion.
Wrth i'r etholiad agosáu, mae ymgeiswyr yn rhoi sylw manwl i'r hyn sy'n bwysig i bleidleiswyr – ac un o'r mannau cyntaf y maen nhw'n edrych yw'r wasg.
Dyna pam rydym yn gofyn i chi ysgrifennu llythyr at eich papurau lleol. Pan fydd llythyrau a straeon yn dechrau ymddangos mewn papurau newydd ledled Cymru, mae'n creu sŵn y mae'n rhaid i wleidyddion roi sylw iddo.
Mae pob llythyr unigol yn ychwanegu at y don gynyddol o leisiau sy'n galw am newid.
Felly, a wnewch chi anfon llythyr at eich papurau lleol heddiw?
⏳ Dim ond munud y mae'n ei gymryd i anfon llythyr gan ddefnyddio ein offeryn defnyddiol.
The 2026 Senedd election is a huge opportunity for us to transform end of life care in Wales. Can you help us make sure it’s a big part of the conversation?
Between now and polling day, we need to build a wave of voices calling for radical change – so that when candidates standing in your area start knocking on doors and making promises, end of life care isn’t ignored.
As the election draws closer, candidates are paying close attention to what's important to voters – and one of the first places they look is the press.
That’s why we’re asking you to write a letter to your local papers. When letters and stories start appearing in newspapers across Wales, it creates noise politicians simply must pay attention to.
Every single letter adds to the growing wave of voices calling for change.
So, please will you send a letter to your local papers today?
⏳ It only takes a minute to send a letter using our handy tool.