Llofnodi'r llythyr agored

Sign the open letter

English below

Mae gofal diwedd oes yng Nghymru ar y dibyn. Mae’r bylchau mewn gofal a system sydd dan bwysau difrifol yn golygu bod gormod o bobl yn treulio eu dyddiau olaf ar eu pen eu hunain, mewn poen, ac yn brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd.

Mae gofalwyr a'r rhai sy'n agos at bobl sy'n byw gyda salwch terfynol yn cael eu gadael heb gymorth. Mae gwasanaethau a staff yn ei chael hi'n anodd darparu'r gofal sydd ei angen ar bobl, pryd a ble mae ei angen arnynt. 

Yn etholiad y Senedd, mae angen i ni weld newid ar frys. 

Gyda'n gilydd, rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gymryd y camau beiddgar, radical sydd eu hangen i ddatrys gofal diwedd oes. 

✍️ A wnewch chi ymuno â ni trwy lofnodi ein llythyr agored? 

I ddarllen y llythyr agored, cliciwch yma

At Lywodraeth newydd Cymru,  

Mae gofal lliniarol a diwedd oes yn rhan hanfodol o'n system iechyd a gofal cymdeithasol. Pan fyddwn ni'n llwyddo, gall wneud gwahaniaeth enfawr i bobl sy'n byw gyda salwch terfynol a'u hanwyliaid. Ond, mae gofal diwedd oes yng Nghymru ar y dibyn. Mae bylchau mewn gofal a system dan bwysau difrifol yn golygu bod gormod o bobl yn cael eu gadael heb y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.  

Yn rhy aml, does gan bobl ddim dewis ond mynd i'r ysbyty gan nad yw ein gwasanaethau cymunedol a'n gwasanaethau y tu allan i oriau yn gallu cefnogi pobl gartref neu'n nes gartref. Yn 2023, ar gyfartaledd, roedd un rhan o bump o holl welyau ysbyty wedi’u llenwi bob dydd gan bobl oedd yn 12 mis olaf eu bywyd. Mae un o bob 14 ymweliad â’r adran achosion brys yn ymwneud â rhywun sydd ym mlwyddyn olaf eu bywyd. Mae hyn yn rhoi pwysau y gellir ei osgoi ar ysbytai a’r gwasanaethau brys, ond yn bwysicach fyth mae'n mynd yn groes i'r hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn dweud eu bod nhw eisiau ar gyfer eu gofal.  

A dim ond tyfu fydd y galw am ofal lliniarol a diwedd oes. Erbyn y 2040au, disgwylir y bydd angen gofal ar 5,000 yn fwy o bobl y flwyddyn yng Nghymru. Os nad yw ein system yn gallu ymdopi nawr, does ganddi fawr o siawns o ddiwallu anghenion y dyfodol!  

Ni fydd unrhyw un weithred nac un cam yn mynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu ein system gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Ond gall arweinyddiaeth gref gan Lywodraeth newydd Cymru, ac ymrwymiad i gymryd y camau radical sydd eu hangen i drawsnewid gofal diwedd oes, sicrhau bod gan fwy o bobl fynediad at y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr amser cywir.  

Mae maniffesto Marie Curie – Ar Fin Torri: Amser i drawsnewid gofal diwedd oes yng Nghymru – yn nodi rhaglen gynhwysfawr o newid a all ysgogi gwelliannau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn sicrhau bod y system gyfan yn fwy cymwys i ddiwallu anghenion pobl sy'n byw gyda salwch terfynol. Rhaid i Lywodraeth newydd Cymru:  

1. Sicrhau bod gwasanaethau gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn ymateb i anghenion pobl. 

2. Ariannu gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn gynaliadwy. 

3. Datblygu gweithlu gofal lliniarol a gofal diwedd oes sy'n diwallu'r angen cynyddol am ofal. 

4. Sicrhau bod pobl sy'n byw gyda salwch terfynol yn cael eu cefnogi i gael sgyrsiau am eu dewisiadau gofal. 

5. Darparu mynediad 24/7 at ofal a chymorth. 

6. Sicrhau bod pobl sy'n byw gyda salwch terfynol yn cael eu cefnogi i adael yr ysbyty’n gyflym, pan fyddan nhw’n gallu gwneud hynny. 

7. Gwarantu mynediad teg at ofal lliniarol a gofal diwedd oes. 

8. Rhoi’r gefnogaeth sydd ei angen i ofalwyr di-dâl. 

9. Diogelu pobl sy'n byw gyda salwch terfynol rhag tlodi. 

Allwn ni ddim fforddio gwastraffu amser yn cael hyn yn iawn. Mae’r bobl sy'n byw gyda salwch terfynol a’u hanwyliaid yn haeddu gwell. Gall ein system iechyd a gofal cymdeithasol ddarparu'r gofal sydd ei angen ar bobl, lle mae ei angen arnynt, ond dim ond os yw’r geiriau cynnes cael eu troi'n gamau gweithredu ystyrlon.  

Dros y pum mlynedd diwethaf mae gwaith wedi'i wneud i nodi disgwyliadau clir ynghylch sut y dylid darparu gofal lliniarol a diwedd oes. Mae datganiad ansawdd Llywodraeth Cymru ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn nodi sut beth yw gofal diwedd oes da. Mae Manyleb Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Cymru: Gwasanaethau Gofal Lliniarol a Diwedd Oes yn ategu hyn gyda set o safonau a ddisgwylir gan bawb sy'n ymwneud â darparu gofal lliniarol, gan gynnwys byrddau iechyd a darparwyr.  

Wrth i ni gychwyn ar dymor newydd yn y Senedd, rhaid i'r ffocws nawr newid i weithredu a rhaid i bobl sy'n byw gyda salwch terfynol weld gwelliant sylweddol yn y gofal maen nhw'n ei dderbyn.  


End of life care in Wales is at breaking point. Gaps in care and a system under severe pressure mean too many people are spending their final days isolated, in pain, and struggling to make ends meet. 

Carers and those close to people living with a terminal illness are being left abandoned without support. Services and staff are struggling to deliver the care people need, when and where they need it.  

This Senedd election, we need to see urgent change.  

Together, we’re calling on the next Welsh Government to take the bold, radical action needed to fix end of life care.  

✍️ Will you join us by signing our open letter?

To read the open letter, click here

To the incoming Welsh Government,  

Palliative and end of life care is a critical part of our health and social care system. When we get it right, it can make a huge difference for people living with a terminal illness and those close to them. But, end of life care in Wales is at breaking point. Gaps in care and a system under severe pressure mean too many people are left without the care and support they need.  

Too often, people are left with no option but to go to hospital as our community and out of hours services are simply unable to support people at or closer to home. In 2023, on average, a fifth of hospital beds were occupied every day by people in the last 12 months of life. Of every emergency department visit one in 14 relates to someone in their last year of life. This puts avoidable pressure on hospitals and emergency services, but more importantly it goes against what most people say they want for their care.  

Demand for palliative and end of life care is only going to grow. By the 2040s, it’s expected that 5,000 more people a year in Wales will need care. If our system can’t cope now, it has little chance of meeting future need.  

No single actor nor action will address the issues facing our palliative and end of life care system. But strong leadership from the newly formed Welsh Government, and a commitment to taking the radical action needed to transform end of life care, can ensure that more people have access to the right care, in the right place, at the right time.  

Marie Curie’s manifesto – At Breaking Point: Time to transform end of life care in Wales – sets out a comprehensive programme of change that can drive improvements across the health and social care system. This will ensure that the whole system is better equipped to meet the needs of people living with a terminal illness. The new Welsh Government must:  

1. Ensure palliative and end of life care services are responsive to people's needs. 

2. Sustainably fund palliative and end of life care. 

3. Develop a palliative and end of life care workforce that meets the growing need for care. 

4. Ensure people living with a terminal illness are supported to have conversations about their care preferences. 

5. Provide 24/7 access to care and support. 

6. Ensure people living with a terminal illness are supported to leave hospital swiftly, when they are able. 

7. Guarantee equitable access to palliative and end of life care. 

8. Provide unpaid carers with the support they need. 

9. Protect people living with a terminal illness from poverty. 

We can’t afford to waste time getting this right. People living with a terminal illness and those close to them deserve better. Our health and social care system can deliver the care people need, where they need it, but only if warm words translate into meaningful action.  

Over the past five years work has been done to set out clear expectations as to how palliative and end of life care should be delivered. The Welsh Government’s quality statement for palliative and end of life care sets out what good end of life care should look like. The National Service Specification for Wales: Palliative and End of Life Care Services underpins this with a set of standards that are expected from everyone involved in the delivery of palliative care, including health boards and providers.  

As we embark upon this new Senedd term, focus must now switch to taking action and people living with a terminal illness must see a significant improvement in the care they receive.  

Eich manylion 

Your details

Noder bod yr arolwg hwn ar gyfer trigolion yng Nghymru yn unig.Please note: this action is only available for supporters living in Wales. 

Cadw mewn cysylltiad / Stay in touch

Mae cefnogwyr fel chi yn gwneud y gofal y mae Marie Curie yn ei ddarparu a'n gwaith ehangach yn bosibl - a byddem wrth ein bodd yn rhannu gyda chi pa ffyrdd eraill sydd o helpu. Rhowch wybod i ni sut yr hoffech chi glywed gennym ni: / Supporters like you make the care Marie Curie provides and our wider work possible - and we'd love to share more ways you can help. Just tell us how you'd like to hear from us:

Rhowch y wybodaeth ddiweddaraf i mi drwy e-bost

Rhowch y wybodaeth ddiweddaraf i mi dros y ffôn

I ddiweddaru eich dewisiadau cyswllt, gan gynnwys pa mor aml y byddwch yn clywed gennym, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch 0800 716 146. Dysgwch fwy am ein Haddewid Codi Arian a'n polisi preifatrwydd. (Saesneg yn unig)

To update your contact preferences, including how often you hear from us, email [email protected] or call 0800 716 146. Find out more about our Fundraising Promise and privacy policy.