At Lywodraeth newydd Cymru,
Mae gofal lliniarol a diwedd oes yn rhan hanfodol o'n system iechyd a gofal cymdeithasol. Pan fyddwn ni'n llwyddo, gall wneud gwahaniaeth enfawr i bobl sy'n byw gyda salwch terfynol a'u hanwyliaid. Ond, mae gofal diwedd oes yng Nghymru ar y dibyn. Mae bylchau mewn gofal a system dan bwysau difrifol yn golygu bod gormod o bobl yn cael eu gadael heb y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Yn rhy aml, does gan bobl ddim dewis ond mynd i'r ysbyty gan nad yw ein gwasanaethau cymunedol a'n gwasanaethau y tu allan i oriau yn gallu cefnogi pobl gartref neu'n nes gartref. Yn 2023, ar gyfartaledd, roedd un rhan o bump o holl welyau ysbyty wedi’u llenwi bob dydd gan bobl oedd yn 12 mis olaf eu bywyd. Mae un o bob 14 ymweliad â’r adran achosion brys yn ymwneud â rhywun sydd ym mlwyddyn olaf eu bywyd. Mae hyn yn rhoi pwysau y gellir ei osgoi ar ysbytai a’r gwasanaethau brys, ond yn bwysicach fyth mae'n mynd yn groes i'r hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn dweud eu bod nhw eisiau ar gyfer eu gofal.
A dim ond tyfu fydd y galw am ofal lliniarol a diwedd oes. Erbyn y 2040au, disgwylir y bydd angen gofal ar 5,000 yn fwy o bobl y flwyddyn yng Nghymru. Os nad yw ein system yn gallu ymdopi nawr, does ganddi fawr o siawns o ddiwallu anghenion y dyfodol!
Ni fydd unrhyw un weithred nac un cam yn mynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu ein system gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Ond gall arweinyddiaeth gref gan Lywodraeth newydd Cymru, ac ymrwymiad i gymryd y camau radical sydd eu hangen i drawsnewid gofal diwedd oes, sicrhau bod gan fwy o bobl fynediad at y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr amser cywir.
Mae maniffesto Marie Curie – Ar Fin Torri: Amser i drawsnewid gofal diwedd oes yng Nghymru – yn nodi rhaglen gynhwysfawr o newid a all ysgogi gwelliannau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn sicrhau bod y system gyfan yn fwy cymwys i ddiwallu anghenion pobl sy'n byw gyda salwch terfynol. Rhaid i Lywodraeth newydd Cymru:
1. Sicrhau bod gwasanaethau gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn ymateb i anghenion pobl.
2. Ariannu gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn gynaliadwy.
3. Datblygu gweithlu gofal lliniarol a gofal diwedd oes sy'n diwallu'r angen cynyddol am ofal.
4. Sicrhau bod pobl sy'n byw gyda salwch terfynol yn cael eu cefnogi i gael sgyrsiau am eu dewisiadau gofal.
5. Darparu mynediad 24/7 at ofal a chymorth.
6. Sicrhau bod pobl sy'n byw gyda salwch terfynol yn cael eu cefnogi i adael yr ysbyty’n gyflym, pan fyddan nhw’n gallu gwneud hynny.
7. Gwarantu mynediad teg at ofal lliniarol a gofal diwedd oes.
8. Rhoi’r gefnogaeth sydd ei angen i ofalwyr di-dâl.
9. Diogelu pobl sy'n byw gyda salwch terfynol rhag tlodi.
Allwn ni ddim fforddio gwastraffu amser yn cael hyn yn iawn. Mae’r bobl sy'n byw gyda salwch terfynol a’u hanwyliaid yn haeddu gwell. Gall ein system iechyd a gofal cymdeithasol ddarparu'r gofal sydd ei angen ar bobl, lle mae ei angen arnynt, ond dim ond os yw’r geiriau cynnes cael eu troi'n gamau gweithredu ystyrlon.
Dros y pum mlynedd diwethaf mae gwaith wedi'i wneud i nodi disgwyliadau clir ynghylch sut y dylid darparu gofal lliniarol a diwedd oes. Mae datganiad ansawdd Llywodraeth Cymru ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn nodi sut beth yw gofal diwedd oes da. Mae Manyleb Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Cymru: Gwasanaethau Gofal Lliniarol a Diwedd Oes yn ategu hyn gyda set o safonau a ddisgwylir gan bawb sy'n ymwneud â darparu gofal lliniarol, gan gynnwys byrddau iechyd a darparwyr.
Wrth i ni gychwyn ar dymor newydd yn y Senedd, rhaid i'r ffocws nawr newid i weithredu a rhaid i bobl sy'n byw gyda salwch terfynol weld gwelliant sylweddol yn y gofal maen nhw'n ei dderbyn.