Yn y cyfnod cyn yr etholiad, bydd ymgeiswyr yn ceisio cael cynifer o sgyrsiau ag aelodau o'r cyhoedd ag sy’n bosibl. Mae hyn yn golygu bod digon o gyfleoedd i’w holi am gynlluniau eu plaid ar gyfer dyfodol gwasanaethau gofal lliniarol a diwedd oes.
Gallech ofyn cwestiwn mewn hustings lleol. Mae hustings yn gyfarfodydd, a all fod ar-lein, lle bydd ymgeiswyr yn trafod safbwyntiau ei gilydd, yn egluro pam dylen nhw gael eu hethol, ac yn ateb cwestiynau gan bleidleiswyr. I ddod o hyd i hustings yn eich ardal chi, gallwch chwilio ar-lein neu edrych yn eich papur lleol.
Gall ymgeiswyr a'u cefnogwyr hefyd gnocio ar eich drws, eich ffonio, neu anfon llythyrau i chi tra byddan nhw’n canfasio am bleidleisiau. Dyma gyfle da arall i’w holi am eu cynlluniau.
Dyma rai cwestiynau y gallech eu gofyn, naill ai mewn hustings neu ar stepen y drws:
1. Dylai pawb yng Nghymru gael mynediad at y gofal lliniarol a gofal diwedd oes y mae arnyn nhw ei angen, a hynny yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Cwestiwn: Ydych chi wedi llofnodi addewid Marie Curie Cymru i ddangos eich cefnogaeth i ddatrys gwasanaethau gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn ein hardal ni ac ar draws Cymru?
2. Erbyn y 2040au, mae'n debygol y bydd 37,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Cwestiwn: Os cewch chi eich ethol yn AS i gynrychioli ein hardal, beth fyddwch chi'n ei wneud i helpu i sicrhau bod y system yn gallu ymdopi â'r angen cynyddol am ofal a chymorth?
3. Ar hyn o bryd, mae gormod o’r rhai sy'n marw a'r rhai sydd agosaf atyn nhw’n methu â chael mynediad at ofal a chymorth 24/7. Cwestiwn: Os cewch chi eich ethol yn AS, pa gamau fyddech chi'n eu cymryd i sicrhau bod Llywodraeth nesaf Cymru yn mynd i'r afael â hyn?
4. Mae un o bob chwech sy’n marw yng Nghymru bob blwyddyn yn marw mewn tlodi. Cwestiwn: Fel ymgeisydd dros [enw'r blaid], pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i drafod hyn gydag arweinydd eich plaid?
5. Mae gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn gwneud gwaith hanfodol o ran gofalu am bobl ar ddiwedd eu hoes, gan yn aml geisio cydbwyso cyfrifoldebau eraill a than bwysau emosiynol ac ariannol. Cwestiwn: Os cewch eich ethol, beth fyddwch chi'n ei wneud dros ofalwyr di-dâl yn ein hardal?
Byddai’n ddefnyddiol iawn i Marie Curie wybod beth mae ymgeiswyr yn ei ddweud mewn ymateb i'ch cwestiynau. Felly, os gofynnwch gwestiwn mewn digwyddiad hustings neu ar stepen y drws, rhowch wybod i ni beth maen nhw'n ei ddweud trwy anfon neges i: [email protected]
💡Awgrym: Gallech osod poster yn eich ffenestr i ddal sylw ymgeiswyr (gallwch argraffu’r poster sydd yn yr adran 'Adnoddau').